Skip to content

Ymgynghori

Cynllun Drafft y Sector Adeiladu a Dymchwel

Mae’r cynllun hwn yn cwmpasu gwastraff o brosiectau adeiladu, peirianneg sifil a dymchwel. Mae’n anelu at rwystro a lleihau gwastraff a chael rhagor o ailgylchu o fusnesau yn y sector hwn.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 08/11/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 31/01/2012

Bydd yn gwneud hyn trwy:

  • ddylanwadu i newid ymddygiad;
  • annog ffyrdd gwell o weithio;
  • datblygu partneriaethau gyda’r trydydd sector; a 
  • rheolaethau deddfwriaethol.

Bydd yr amcanion yn cael eu hystyried o’r broses o ddylunio’r cynnyrch neu’r adeiladau i ddymchwel, adfer a gwaredu.  

Mae’r cynllun hwn yn cefnogi Tuag at Ddyfodol Diwastraff, y ddogfen strategaeth wastraff gyffredinol ar gyfer Cymru. Mae’n rhoi manylion y canlyniadau, y polisïau a’r camau ar gyfer y sectorau hyn. Rydym am gael eich barn am y ddogfen ymgynghori.

Rydym yn argymell eich bod yn darllen yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gael isod (gan gynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol). Dogfennau perthnasol eraill y dylech eu hystyried yw'r Ddogfennau cefndir Tuag at Ddyfodol Diwastraff, ar gael trwy'r ddolen uchod:

  • Asesu’r Effaith ar Iechyd;
  • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd; a’r
  • sylfaen dystiolaeth.