Skip to content

Ymgynghori

Cymru Fyw - Fframwaith newydd ar gyfer ein hamgylchedd, ein cefn gwlad a'n moroedd

Mae'r pwysau ar yr amgylchedd yn cynyddu oherwydd y newid yn yr hinsawdd, gweithgarwch dynol a ffactorau eraill. Hyd yma rydym wedi bod yn edrych ar rannau o'r amgylchedd ar wahân. Golyga hynny nad ydym wedi llwyr sylweddoli pwysigrwydd yr amgylchedd yn ein bywydau. Mae ein Fframwaith Amgylchedd Naturiol yn canolbwyntio ar reoli'n hamgylchedd fel cyfanbeth yn hytrach na chanolbwyntio ar rannau gwahanol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 15/09/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 31/12/2010

Roedd y ddogfen ymgynghori hon yn disgrifio y ffordd newydd y byddwn yn mynd ati i reoli ein tir, ein dŵr a'n moroedd. Roedd hefyd yn dangos y camau yr ydym eisoes wedi’u cymryd i ymateb yn weithredol i'r methiant i gwrdd â thargedau bioamrywiaeth 2010.

Roedd y ddogfen hon yn nodi, yn fras, y trywydd ar gyfer ein gwaith yn y dyfodol. Mae eich ymatebion a'ch sylwadau i'r ymgynghoriad wedi cyfrannu'n uniongyrchol at y gwaith hwnnw.

Lansiwyd yr ymgynghoriad i gael eich barn, syniadau a’ch tystiolaeth am waith sy'n helpu natur yng Nghymru.

Y dogfennau ymgynghori

Mae’r rhan fwyaf o’r dogfennau hyn ar gael ar waelod y dudalen hon.

  • Y Ddogfen Ymgynghori;
  • Y Diffiniadau – beth yw ystyr y termau technegol?
  • Y Naratif – beth yw’r syniadaeth fanwl sydd wrth wraidd hyn?
  • Yr Astudiaethau Achos – enghreifftiau o’r camau gweithredu a gymerir i helpu ecosystemau yng Nghymru;
  • Yr Offer – disgrifiad o’r offer syml y gallwn eu defnyddio i’n helpu wrth wneud penderfyniadau.

Offeryn Mapio

Mae’r dogfennau am yr offer ar gael ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Ewch i: Cyngor Cefn Gwlad Cymru (dolen allanol)