Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghori ar yr Adolygiad o ffioedd trwyddedu sy’n daladwy o dan Ddeddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd 1985 Rhan 2

Gwahoddir eich sylwadau ar y cynigion i gyflwyno newidiadau i ffioedd trwyddedu Ddeddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd o fis Chwefror 2010 ymlaen. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn y rhanddeiliaid ar y strwythur newydd arfaethedig ar gyfer ffioedd trwyddedu.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 19/10/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 14/01/2010

Mae Asiantaeth y Môr a Physgodfeydd yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar ran Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru.  

Ar hyn o bryd mae'r Trwyddedau o dan Rhan II o’r Ddeddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd yn cael eu gweinyddu gan Asiantaeth y Môr a Physgodfeydd ar ran Gweinidogion Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Asiantaeth y Môr a Physgodfeydd.

Ewch i: wefan Asiantaeth y Môr a Physgodfeydd (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r ymgynghoriad hwn, ffoniwch: 020 7979 8577.