Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ynghylch Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol: Asesiad Cychwynnol ac argymhellion y DU ar gyfer Statws Amgylcheddol Da

Ymgynghoriad ynglŷn â rhoi Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol (MSFD) ar waith.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 27/03/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 18/06/2012

Mae hwn yn ymgynghoriad ar y cyd rhwng:

  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra);
  • Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon;
  • Llywodraeth yr Alban; a
  • Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gymryd camau i ennill neu gynnal Statws Amgylcheddol Da ar gyfer eu moroedd erbyn 2020. Mae hyn yn golygu:

  • amddiffyn yr amgylchedd morol;
  • atal unrhyw ddirywiad;
  • ei adfer lle bo’n ymarferol; a
  • defnyddio adnoddau morol mewn ffordd gynaliadwy.  

Rydym am glywed eich barn ynghylch:

  • y camau cyntaf sy’n cael eu rhoi ar waith;
  • asesiad drafft o gyflwr moroedd y DU;
  • argymhellion ar gyfer nodweddion Statws Amgylcheddol Da’r DU;
  • argymhellion ar gyfer targedau a dangosyddion Statws Amgylcheddol Da’r DU; ac
  • asesiad effaith yn nodi goblygiadau posibl y targedau a dangosyddion Statws Amgylcheddol Da sy’n cael eu cynnig.  

Byddwn yn ymgynghori’n hwyrach ynghylch argymhellion ar gyfer rhaglenni monitro a mesurau cyflawni Statws Amgylcheddol Da’r DU.