Skip to content

Ymgynghori

Parthau Cadwraeth Morol – Opsiynau Safleoedd Posibl ar gyfer Dyfroedd Cymru

Mae’r ymgynghoriad hwn yn chwilio am farn a gwybodaeth ar y 10 safle posibl yn nyfroedd Cymru sydd wedi eu nodi gan Brosiect Parthau Cadwraeth Morol Cymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 19/04/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 31/07/2012

Mae’n esbonio sut mae’r safleoedd posibl wedi cael eu nodi a’r camau mae Prosiect Parthau Cadwraeth Morol Cymru wedi eu dilyn. Y bwriad yw clustnodi 3-4 safle ar gyfer dynodi, drwy broses ymgynghori raddol.

Yr ymgynghoriad hwn yw’r cyntaf o 3 chyfnod ymgynghorol y bydd gennych gyfle i gynnig sylwadau arnynt. Ymatebwch drwy ddefnyddio’r e-bost neu drwy’r post.

Bydd cyfle hefyd i ddweud eich barn wrthym drwy fynychu un o’r digwyddiadau cyhoeddus/sector benodol gaiff eu cynnal yn ystod y cyfnod ymgynghori. 

Bydd mwy o wybodaeth am leoliad a dyddiad y digwyddiadau yma ar y wefan hon yn fuan.

Rydym wedi creu rhaglen fapio GIS (system gwybodaeth ddaearyddol) i ategu'r ymgynghoriad. Gallwch ei defnyddio i weld ble’n union y mae’r safleoedd a’r rhesymau ecolegol dros ddewis y 10 safle posibl. Mae hefyd yn gadael i chi ystyried y safleoedd hyn o ran eu maint a'r cynefinoedd pwysig sydd yno.

Ewch i: rhaglen fapio ar y we (Saesneg yn unig)

Digwyddiadau ymgynghori

Rydym yn cynnal rhai digwyddiadau ymgynghori er mwyn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a mynegi eich barn. Mae croeso i unrhyw un ddod i’r rhain.

De Cymru

Dyddiad: 27 Mehefin
Amser: 9.30 - 8pm  
Lleoliad: Theatr Myrddin, Coleg Sir Benfro, Hwlffordd

Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw gan mai nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael. Gallwch gofrestru ar wefan Eventbrite.

Ewch i: wefan Eventbrite: digwyddiad De Cymru (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Gogledd Cymru

Dyddiad: 3 Gorffennaf
Amser: 9.30 – 8pm
Lleoliad: Gwesty’r Celtic Royal, Caernarfon

Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw gan mai nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael. Gallwch gofrestru ar wefan Eventbrite.

Ewch i: wefan Eventbrite: digwyddiad Gogledd Cymru (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Pysgotwyr

Rydym hefyd yn trefnu cyfarfodydd ar gyfer pysgotwyr masnachol a physgotwyr hamdden. Anfonwch e-bost at marine@wales.gsi.gov.uk neu ffoniwch 029 2080 1258 i gael rhagor o wybodaeth.

Diweddaraf

Gan ein bod wedi derbyn cymaint o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, ni fyddwn yn gallu cydnabod pob un ohonynt. Un o’r negeseuon allweddol a ddeilliodd o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd â’r rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ystod y cyfnod ymgynghori oedd bod angen i benderfyniadau gael eu gwneud ynghylch y camau nesaf cyn gynted â phosibl. Felly, byddwn yn canolbwyntio ar ddadansoddi’r ymatebion ac yn ystyried yr holl sylwadau a ddaeth i law. Byddwn yn eu pwyso a’u mesur yn ofalus cyn pennu’r camau nesaf yr hydref hwn.