Skip to content

Ymgynghori

Rheoleiddio Amgylcheddol gan Awdurdodau Lleol o Ffatrïoedd a Pheiriannau Diwydiannol: Ffïoedd a Thaliadau ar Sail Risg 2011/12

Mae Awdurdodau Lleol yn adennill y costau o reoleiddio diwydiant sy’n atal neu’n lleihau llygredd i lefelau derbyniol drwy ffïoedd a chodi tâl am Drwyddedau Amgylcheddol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r ffïoedd a’r taliadau yng Nghymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 22/10/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 14/01/2011

Dolenni perthnasol

Pennir y ffïoedd a’r taliadau hyn o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999. Mae’r costau hyn yn ariannu gwaith swyddogion Awdurdodau Lleol i gymhwyso’r cyfundrefnau Aer Lleol - Atal a Rheoli Llygredd Integredig (LA-IPPC) ac Atal a Rheoli Llygredd Aer Lleol (LAPPC).

Bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn ymgynghori ar wahân ar y ffïoedd hyn yn Lloegr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA drwy’r ddolen ar yr ochr dde.

Ewch i: Rheoleiddio gan Awdurdodau Lleol o Ffatrïoedd a Pheiriannau Diwydiannol: Ffïoedd a Thaliadau ar Sail Risg 2010/11: Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (dolen allanol, Saesneg yn unig)