Skip to content

Ymgynghori

Adolygu Rhestr 2 y Rheoliadau Gwastraff Rheoledig (1992)

Mae’r Rheoliadau Gwastraff Rheoledig (1992) (“y RhGRh”) yn rhwystro bwriad y DU a Chymru i beidio â chynhyrchu gwastraff. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio’ch barn chi ynglŷn â Rheoliadau arfaethedig newydd yn lle’r Rheoliadau presennol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 08/11/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 14/01/2011

Y mae’n ymgynghoriad ar y cyd cydrhwng Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Rhestr 2 y RhGRh yn rhestru mathau o ‘wastraff aelwydydd’ y gall awdurdodau lleol godi arian am eu casglu.  

Yn y cyd-destun hwn, golyga ‘gwastraff aelwydydd’ wastraff o gartrefi ac o amryw sefydliadau annomestig, gan gynnwys ysgolion, ysbytai a charchardai. Dyletswydd awdurdodau lleol yw casglu gwastraff o’r ‘sefydliadau Rhestr 2’ hyn os gofynnir hynny: ond dim ond ar gyfer y casglu y gallant godi tâl, nid ar gyfer gwaredu’r gwastraff.

Mae a wnelo’r bwriad hwn â chodi tâl am ‘wastraff domestig’ sefydliadau nad ydynt yn aelwydydd, ac â  hynny’n unig. Ni fwriedir codi tâl am gasglu gwastraff aelwydydd. Nid adolygwyd yr agwedd honno.

Gwaredu yw rhan fwyaf cost rheoli gwastraff domestig, ac y mae’r costau ar gynnydd. Trwy ynysu rhai cyrff rhag y costau hyn, mae’r rheoliadau’n rhwystro rheolaeth gwastraff fwy cynaliadwy, ac yn achosi trafferthion i awdurdodau lleol ac ymgymerwyr gwastraff y sector preifat. Mae’r RhGRh yn anodd eu dehongli; yn defnyddio termau hen ffasiwn, ac yn cyfeirio at ddeddfwriaeth sydd wedi hen ddyddio.

Amcanwn newid y ddeddfwriaeth er mwyn:

  • Rhoi’r grym i awdurdodau lleol godi tâl am waredu gwastraff annomestig ‘Rhestr 2’;
  • Caniatáu i awdurdodau lleol benderfynu maint y tâl, fel y gallant godi yn ôl amgylchiadau lleol;
  • Gwaredu gwastraff siopau elusen a chyrff ailddefnyddio yn rhad ac am ddim, gan eu bod nhw’n helpu lleihau gwastraff aelwydydd trwy annog ailddefnyddio;
  • Hwyluso defnyddio’r rheoliadau trwy aildrefnu, egluro’r derminoleg, a diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth gwastraff arall;
  • Cadw dyletswydd awdurdodau lleol i gasglu gwastraff sefydliadau a geir yn Rhestr 2 ar hyn o bryd, os ofynnir hynny. Hyn er lles iechyd y cyhoedd.

Mae'r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Ewch i: wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, cafodd y rheoliadau sy’n dirymu ac yn cymryd lle rheoliadau 1992 eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Mawrth 2012. Cewch fwy o fanylion amdanynt yn y Memorandwm Esboniadol.

Ewch i: Gosod dogfennau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol (dolen allanol)

Ewch i: Memorandwm Esboniadol (dolen allanol)