Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ynghylch y canllawiau drafft i ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth a'r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat) ar dariffau cymdeithasol

Diben yr ymgynghoriad hwn yw cael barn pobl am ganllawiau drafft Llywodraeth Cymru i ymgymerwyr (cwmnïau dŵr a charthffosiaeth a chwmnïau dŵr yn unig), sy'n gweithredu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, ac Ofwat (yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr), ar dariffau cymdeithasol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 14/11/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 06/02/2012

Mae Adran 44 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn galluogi ymgymerwyr i gynnwys tariffau cymdeithasol yn eu cynlluniau taliadau. Mae'r rhain yn ei gwneud yn bosibl i unigolion dalu llai os ydynt yn ei chael yn anodd talu eu bil yn llawn.

Mae Adran 44 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau, gan gynnwys ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu a ddylai un grŵp o gwsmeriaid gael helpu un arall yn ariannol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried yn y canllawiau faint y mae angen helpu unigolion a fyddai'n ei chael yn anodd talu yn llawn o'i gymharu â buddiannau cwsmeriaid eraill.

Bwriad y canllawiau drafft hyn yw diwallu'r anghenion hyn a sicrhau'r canlyniad gorau i gwsmeriaid yng Nghymru. Mae'r canllawiau drafft yn amlinellu'r fframwaith y caiff ymgymerwr ei ddefnyddio i gyflwyno tariff cymdeithasol. Mae hefyd yn amlinellu'r fframwaith y dylai Ofwat ei ystyried wrth arfer ei bŵer i gymeradwyo cynlluniau taliadau.