Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ar y diffiniad cyfreithiol o wastraff a'r modd y caiff ei gymhwyso

Rydym yn ymgynghori ar ganllaw drafft i helpu sefydliadau i ddiffinio gwastraff yn gywir.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 18/01/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 12/04/2010

Dolenni perthnasol

Fe welwch y canllaw drafft ym Mhennod Tri y ddogfen ymgynghori ac mae wedi’i rannu’n dair rhan:

  • Rhan 1 – canllaw ymarferol i fusnesau a chyrff eraill;
  • Rhan 2 – esboniad o gefndir y canllaw drafft a’r rhesymau drosto; a
  • Rhan 3 – gwybodaeth fanwl am y gyfraith diffinio gwastraff.  Wedi’i fwriadu ar gyfer y rheini sydd â diddordeb arbenigol.

Mae’r canllaw drafft wedi’i baratoi gan:

  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra);
  • Llywodraeth y Cynulliad;
  • Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon;
  • Asiantaeth yr Amgylchedd; a
  • Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon.