Skip to content

Ymgynghori

Deddf Cydraddoldeb 2010 - Cyflawni Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Ymgynghori ynghylch fersiwn ddrafft Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 21/09/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 17/12/2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyflwyno dyletswydd gyffredinol cydraddoldeb gyffredinol newydd i’r sector cyhoeddus a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2011. Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru allu llunio rheoliadau sy’n gosod dyletswyddau cydraddoldeb penodol i’r sector cyhoeddus ar awdurdodau cyhoeddus perthnasol yng Nghymru a restrir yn Rhan 2 Atodlen 19 y Ddeddf.

Pwrpas y dyletswyddau cydraddoldeb penodol newydd hyn yw gwella sut mae’r sector cyhoeddus yn cyflawni’r ddyletswydd gyffredinol.

Felly, datblygwyd y dyletswyddau a gynigir yn y ddogfen hon gyda chyfraniad gan randdeiliaid allweddol o’r cyhoedd a’r Trydydd Sector yng Nghymru.

Roedd yr Ymarfer Gwrando a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2009 yn rhan o'r broses hon o gynhwysiant a gallwch weld y crynodeb o'r adroddiad o dan 'Dolenni perthnasol'.

Datblygwyd y dyletswyddau arfaethedig hyn fel eu bod yn gymesur o ran cynllun, yn berthnasol i angen, yn dryloyw o ran dull gweithredu ac wedi’u teilwra i dywys awdurdodau cyhoeddus perthnasol yng Nghymru i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol yn well. Y nod yw mynd ati’n well i ddiwallu anghenion dinasyddion Cymru sy’n dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir iddynt gan y sector cyhoeddus.

Am fwy o wybodaeth, ewch at wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.