Skip to content

Ymgynghori

Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol

Mae’r Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol yn ategu Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 20/09/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 20/12/2012

Cafodd y fframwaith ei lansio ar 20 Medi, ac mae’n ategu Amcan 5 y Cynllun yn benodol: 

“Mynd i’r afael â rhwystrau a chefnogi pobl anabl er mwyn iddynt allu byw’n annibynnol a gwneud dewisiadau a rheoli eu bywydau bob dydd.”

Mae’r Fframwaith Gweitheredu wedi’i seilio ar y model cymdeithasol o anabledd. Mae’n archwilio’r hyn sy’n rhwystro cydraddoldeb a chynhwysiant i bobl anabl, a’r camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael â hynny. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig cyfle i roi sylwadau ar gynnwys y Fframwaith. Bydd yr ymatebion yn helpu i lywio cyfeiriad gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn y dyfodol.