Skip to content

Ymgynghori

Ar lwybr Arall - Strategaeth Ddrafft ar gyfer Sipsiwn-Teithwyr Dogfen Ymgynghori

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar ei strategaeth ddrafft i gefnogi Sipsiwn-Teithwyr yng Nghymru ac i wella'u mynediad i wasanaethau.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 03/11/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 05/01/2010

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydnabod bod angen ystyried y ffordd y mae polisi cyhoeddus yn ymateb i anghenion Sipsiwn a Theithwyr. Mae’r ddogfen Cymru’n Un yn crynhoi’r gydnabyddiaeth hon ac wedi ei throsi’n ymrwymiad penodol i baratoi Strategaeth Sipsiwn–Teithwyr Cymru Gyfan.

Mae gan fyw ar ymylon cymdeithas oblygiadau difrifol i gymunedau Sipsiwn-Teithwyr yng Nghymru a’u gallu i fanteisio ar wasanaethau hanfodol. Dyma rai o’r materion y mae angen delio â hwy er mwyn sicrhau nad yw Sipsiwn–Teithwyr yng Nghymru yn teimlo mwyach eu bod yn cael eu hallgáu a’u bod yn agored i niwed mewn cymdeithas:

  • allgáu cymdeithasol a rhagfarn ar sail hil
  • anfantais addysgol
  • materion diwylliannol a diogelwch
  • materion cymdeithasol ac economaidd.

Nod y strategaeth hon yw:

  • gwireddu ein hymrwymiad i’r gymuned Sipsiwn–Teithwyr
  • sicrhau cyfle cyfartal i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru
  • meddwl am ffyrdd newydd o alluogi cymunedau Sipsiwn a Theithwyr i gael gafael ar adnoddau nad ydynt bob amser ar gael iddynt trwy sicrhau bod ein gwasanaethau yn ddigon hyblyg i ymateb i anghenion Sipsiwn a Theithwyr.

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori ar y strategaeth ddrafft 'Ar lwybr Arall' ei ddiwygio a'i ail-enwi 'Teithio at Ddyfodol Gwell - Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflenwi ar gyfer for Sipsiwn a Theithwyr'. Gweler yr Adroddiad Ymgynghori isod a'r fframwaith ar gyfer gweithredu yn y Dolenni perthnasol.