Skip to content

Ymgynghori

Dringo’n Uwch: Creu Cymru Egnïol

Bydd yr ymgynghoriad yn 12 wythnos o hyd, gan gychwyn ar 5 Mai 2009, ac rydym am glywed eich barn.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 05/05/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 31/07/2009

Dolenni perthnasol

Mae’r cynllun arfaethedig, Dringo’n Uwch: Creu Cymru Egnïol: Cynllun Gweithredu Strategol, yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod ni, bob un ohonynt, yn ymgymryd â gweithgarwch corfforol fel rhan o’n harferion dyddiol. Mae’r cynllun hwn yn rhan o Ein Dyfodol Iach, dull strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru o fynd ati i wella ansawdd a hyd bywyd.

Mae ‘Creu Cymru Egnïol’ yn cydnabod pa mor bwysig yw amgylchedd adeiledig sy’n cefnogi pobl i fod yn egnïol, a pha mor bwysig yw cael mynediad i fannau gwyrdd.

Mae’r cynllun hefyd yn cydnabod bod angen rhoi cefnogaeth i bobl ymgymryd â mwy o weithgarwch corfforol drwy raglenni wedi’u targedu sy’n annog pobl i newid eu hymddygiad.

Bydd pwyslais arbennig yn cael ei roi ar:

  • Gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith y boblogaeth segur
  • Cefnogi plant i ymgymryd â gweithgarwch corfforol gydol eu hoes
  • Targedu'r rheini sy’n llacio o ran eu lefelau gweithgarwch corfforol, ee merched yn eu harddegau.

Mae gan y cynllun gweithredu bedair thema strategol:

  • Amgylchedd egnïol
  • Plant a phobl ifanc egnïol 
  • Oedolion egnïol 
  • Chwaraeon i bawb

Yn ogystal â hynny, mae camau gweithredu wedi cael eu datblygu i gynnal y themâu gwaelodol, sef:

  • Arweiniad Cenedlaethol
  • Cyflenwad Lleol
  • Cyfathrebu
  • Datblygu’r Gweithlu
  • Ymestyn Partneriaethau
  • Datblygu’r Sylfaen Dystiolaeth.