Skip to content

Ymgynghori

Reoliadau Drafft ar Ddarparu Seibiant i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael eich barn ar Reoliadau.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 01/02/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 28/03/2012
O dan Adran 25 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, cyflwynodd y Llywodraeth ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i helpu unigolion sy’n gofalu am blant anabl i barhau i wneud hynny, neu i wneud hynny’n fwy effeithiol, drwy roi seibiant iddynt oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu.

Yn y ddyletswydd newydd hon, mae’r pwyslais ar helpu’r rhai sy’n gofalu am y plentyn anabl i barhau i wneud hynny drwy roi seibiannau iddynt oddi wrth y gofalu, gan adeiladu ar y dyletswyddau cyffredinol sy’n bodoli o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 o ran plant anabl a gofalwyr anffurfiol.

Dyma'r rheoliadau drafft a'r canllawiau arfer da. Mae angen anfon yr ymatebion erbyn 28 Mawrth 2012.