Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad technegol ar anhwylderau bwyta: Llwybr i Gymru

Mae’r ddogfen hon, ‘Anhwylderau Bwyta: Llwybr i Gymru’ yn cynnwys cyngor technegol oddi wrth y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (NPHS) i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 17/12/2008
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 30/01/2009

Mae wedi cymryd y materion canlynol i ystyriaeth:

  • Ailstrwythuro GIG Cymru
  • Achosion lle mae’r afiechydon hyn yn digwydd ar yr un pryd â chyflyrau eraill
  • Sefydlogi meddygol ac ail-fwydo mewn achosion difrifol, gan gynnwys mewnbwn oddi wrth feddygon a dietegwyr
  • Yr holl arferion gorau ar anhwylderau bwyta a gyhoeddwyd er 2006.

Mae’n amlinellu sut y gall gwasanaethau wella’r ddarpariaeth ar gyfer pobl sydd ag anhwylderau bwyta ac yn awgrymau lle y gellir targedu arian ac adnoddau ychwanegol.

Fel ymgynghoriad technegol mae wedi ei anelu yn y lle cyntaf at gyrff iechyd yng Nghymru.  Dylai hefyd gael ei ystyried gan dimau meddygol cyffredinol yn ogystal a thimau iechyd meddwl a gofal cychwynnol.

Cwestiynau Ymgynghori:

1. Pa heriau a fydd yn gysylltiedig â’r gwaith o weithredu’r Llwybr yn genedlaethol, ac yn lleol?

2. Beth yw eich barn am yr argymhellion ar gyfer timau arbenigol trydyddol ar gyfer anhwylderau bwyta?

3. Unrhyw sylwadau penodol eraill

Yr Ymgynghoriad ar y Fframwaith ar gyfer Anhwylderau Bwyta
Y Gangen Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Throseddwyr
Yr Adran dros Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

MentalHealthPolicyMailbox@wales.gsi.gov.uk