Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ar opsiynau ar gyfer dyfodol y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol

Rhaglen grant cyfalaf yw’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol sydd â’r nod o ddarparu cyllid, pan fetha popeth arall, i sefydliadau sydd am ddarparu neu wella cyfleusterau cymunedol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 08/08/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 31/10/2012

Rhaglen lwyddiannus a phoblogaidd gan Lywodraeth Cymru yw'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol sydd wedi helpu i greu ac adnewyddu mwy na 860 o gyfleusterau cymunedol ledled Cymru ers iddi ddechrau yn 2002. 

Mae llawer wedi newid ers hynny ac mae angen adolygu'r rhaglen bellach er mwyn gwneud yn si?r ei bod hi'n parhau i ddiwallu anghenion cymunedau Cymru ac yn cyflawni'r gwerth am arian cyhoeddus gorau posibl.  Nodir cynigion i fodloni'r amcanion hyn isod. 

Yn ogystal â phrif gynllun y rhaglen, mae'r rhaglen yn darparu arian ar gyfer cynlluniau grantiau bach a gaiff eu cyflwyno ym mhob ardal awdurdod lleol gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried opsiynau ar gyfer datblygu cynlluniau grantiau bach yn y dyfodol a bydd yn cynnal ymgynghoriad ar wahân ar hyn yn y dyfodol agos.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn mynychu un o'r tri digwyddiad sydd wedi'u trefnu ar gyfer rhanddeiliaid, a fydd yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

  • Y Drenewydd: 20 Medi 2012
  • Cyffordd Llandudno: 21 Medi 2012
  • Merthyr Tudful: 1 Hydref 2102