Skip to content

Ymgynghori

Cwrdd â’r Her Tai: Creu consensws ar gyfer gweithredu

Rydym yn awyddus i chi fynegi barn am faterion yn ymwneud â thai er mwyn ein helpu i baratoi Bil Tai newydd.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 08/12/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 17/02/2012

Dolenni perthnasol

Tai

Gall tai ddylanwadu’n fawr ar les pobl, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae’n faes, felly, sy’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod cartref boddhaol ar gael i bawb. Ond mae heriau mawr yn ein hwynebu ac nid ydynt yn rhai hawdd i’w datrys:

  • Nid oes digon o gartrefi ar gael i bawb am fod y boblogaeth yn cynyddu, am fod pobl yn byw yn hirach, ac am fod mwy o bobl yn dewis byw ar eu pen eu hunain;
  • Mae angen gwella llawer o dai, yn enwedig y rheini sy’n cael eu rhentu oddi wrth landlordiaid preifat a rhai o’r tai hŷn y mae pobl yn berchen arnynt;
  • Sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt er mwyn dod o hyd i gartref, a’i gadw, yn enwedig y bobl hynny sydd mewn amgylchiadau personol anodd iawn neu sy’n wynebu sefyllfaoedd argyfyngus yn eu cartrefi;
  • Mae’r cynnydd yng nghostau byw a’r newidiadau i fudd-daliadau yn effeithio ar bobl, ac mae’r effaith honno’n destun pryder.

Mae arian cyhoeddus yn brin, ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ynghylch sut i’w wario.

Byddem yn falch iawn o gael clywed eich barn am y materion a wyntyllir yn y ddogfen hon ac am unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i ddiwallu anghenion pobl o ran tai.

Mae’r ddogfen yn nodi’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae’n ymdrin â’r materion a ganlyn:

  • Fforddiadwyedd;
  • Stiwardio’r system – rôl Llywodraeth Cymru;
  • Y cyflenwad o dai;
  • Ansawdd;
  • Atal digartrefedd a helpu pobl agored i niwed;
  • Gwella gwasanaethau cyhoeddus a gwella safonau; 
  • Gwireddu manteision buddsoddi mewn tai.

Bydd y sylwadau a ddaw i law yn ein helpu gyda’r gwaith cychwynnol ar y Bil Tai.