Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ar opsiynau i ddisodli Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng ar gyfer Treuliau Byw y Gronfa Gymdeithasol

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio barn ar ddisodli'r Grantiau Gofal Cymunedol a'r Benthyciadau Argyfwng ar gyfer treuliau byw unwaith y caiff yr arian ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2013.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 06/01/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 30/03/2012

Dolenni perthnasol

Mae'r Bil Diwygio Lles sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd yn diddymu'r Gronfa Gymdeithasol ddewisol ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer darparu gwasanaethau lleol newydd i ddisodli Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng ar gyfer treuliau byw cyffredinol.

O fis Ebrill 2013, caiff y Gronfa Gymdeithasol ei datganoli i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol yn Lloegr a Llywodraeth yr Alban. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael swm o arian sy'n cyfateb i'r hynny a wariwyd ar y Grantiau Gofal Cymunedol a'r Benthyciadau Argyfwng yng Nghymru ar yr adeg y caiff cyfrifoldeb ei drosglwyddo.