Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ynghylch Gweithio i Wella – ffordd well o ymdrin â phryderon am y gwasanaethau iechyd

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio’ch barn am y ffordd y mae sefydliadau iechyd yn ymdrin â phryderon pobl am y gwasanaeth iechyd.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 11/01/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 02/04/2010

Y Cefndir

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am wella'r ffordd y mae sefydliadau iechyd yn ymdrin â phryderon pobl am y gwasanaeth iechyd.

Rydym am i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wneud cymaint â phosibl i unioni camgymeriadau ac i ddysgu gwersi er mwyn sicrhau na fyddant yn digwydd eto.

Rydym yn teimlo bod modd gwneud hyn drwy wella'r trefniadau sydd eisoes ar waith i gynorthwyo pob aelod o staff i fod yn agored gyda phobl pan fydd rhywbeth wedi mynd o’i le a thrwy fynd ati i ddatblygu mwy ar sgiliau a phrofiad staff a fydd yn ymchwilio i bryderon.

Rydym hefyd o’r farn y bydd mwy o bobl yn fodlon â'r canlyniad os rhoddir i sefydliadau iechyd y modd a'r dulliau y mae eu hangen arnynt i gynnal gwell ymchwiliadau.

Dylai'r broses fod yn un hawdd i’w defnyddio a dylai pobl fedru cael help a chymorth i fynegi eu pryderon.

Diben

Diben yr ymgynghoriad hwn yw sicrhau bod safbwyntiau pob rhanddeiliad a phawb sy’n defnyddio’r gwasanaethau yn cael eu mynegi a’u hystyried.

Fforwm Ar-lein

Y Fforwm Gwneud Pethau'n Iawn ar y we yw eich cyfle chi i gymryd rhan o rhoi gwybod inni beth rydych chi'n meddwl am yr ymgynghoriad â'ch profiad chi i'r broses gwyno. Gallwch fynd i mewn i'r fformw drwy glicio ar y ddolen uchod.