Skip to content

Ymgynghori

Cydamcanu – Cydymdrechu

Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau statudol newydd sydd â’r nod o integreiddio’r broses o gynllunio gwasanaethau lleol, symleiddio’r cydweithio, a chryfhau swyddogaeth strategol ac atebolrwydd y bwrdd gwasanaethau lleol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 10/01/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 30/03/2012

Bwriedir i’r Canllawiau ddisodli’r canllawiau statudol presennol sy’n deillio o nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth: Strategaethau Cymunedol (Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009), Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc (Deddf Plant 2004, Mesur Plant a Theuluoedd 2010), a’r Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (Deddf GIG Cymru 2006).

Nid yw’r gwaith o gynllunio Diogelwch Cymunedol wedi’i ddatganoli (Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998) felly canllawiau cynghorol yn unig yw’r rhain o ran cynllunio Diogelwch Cymunedol yng Nghymru.