Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ar yr Adolygiad o Wasanaethau Cymorth a Datblygu Busnesau

Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 22/02/2006
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 12/08/2009

 Bu perfformiad economaidd Cymru yn wael ers blynyddoedd lawer. Mae Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y pen (GDP) yng Nghymru, fel canran o’r ffigwr ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd, wedi bod rhwng gwaelod a chanol yr 80au ers yr 1960au.

Bernir mai’r ffactorau canlynol sy’n cyfrannu at y perfformiad economaidd cyffredinol gwael:

  • seiliau busnes cynhenid gwan sy’n adlewyrchu’r ddibyniaeth draddodiadol ar nifer fechan o sectorau diwydiannol sydd wedi dirywio’n fawr

  • cyfraddau gweithgarwch isel

  • cynhyrchu gwerth-ychwanegol isel

  • dim digon o gwmnïau’n allforio

  • sector gwasanaethau heb ddatblygu’n gryf a phrinder swyddogaethau pencadlys

  • diffyg diwydiannau uwch-dechnoleg a diwydiannau gwybodaeth a diffyg pwyslais ar arloesedd ac ymchwil a datblygu

  • methiant i fanteisio’n ddigonol ar y cyfleoedd a gynigir gan dechnolegau cyfathrebu gwybodaeth

  • cyflogau isel

  • dim traddodiad o entrepreneuriaeth a dim digon o fusnesau newydd

  • niferoedd cymharol uchel o fusnesau’n methu

  • lefelau twf cymharol siomedig o gwmni bach i gwmni canolig i gwmni cyfyngedig cyhoeddus

  • potensial heb ei ddatblygu yn y diwydiant ymwelwyr.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei ddogfen "www.gwellcymru.com" yn gosod meincnodau ar gyfer economi Cymru ar gyfer 2010. Mae’r targedau penodol yn cynnwys y canlynol:

  • Dylai cyfanswm y busnesau newydd fod wedi codi 35,000 a dylai nifer y swyddi newydd fod wedi tyfu 135,000. Dylai canran y bobl oed gwaith sydd mewn gwaith fod wedi codi, gan leihau’r bwlch rhwng Cymru a’r DU. Dylai canran y boblogaeth rhwng 50 a 59 oed (ar gyfer menywod) a 50 i 64 oed (ar gyfer dynion) sy’n economaidd segur fod wedi syrthio tua 40% yn 1999 i lai na 30%.

  • Dylai gwaith ymchwil a datblygu busnesau fod wedi tyfu’n gyflymach nag yn y DU yn gyffredinol dros y degawd. Rhaid i’r lefelau arloesedd ymhob rhan o’r economi sydd wedi dargyfeirio yng Nghymru fod ymhlith y gorau yn y DU.

  • Rhaid inni fod yn fwy rhyngwladol ein gorwelion …. rhaid i nifer y cwmnïau Cymreig sy’n allforio ac sydd wedi datblygu cysylltiadau gyda busnesau ledled y byd fod wedi cynyddu.

  • Rhaid i gynhyrchiant y pen fod wedi codi o tua 83% o gyfartaledd y DU ynghanol yr 1990au i o leiaf 90%, gan gynhyrchu £5 biliwn yn ychwanegol yn ôl prisiau 1997.

Mae rhagolygon economaidd yn proffwydo bod economi Cymru yn debygol o dyfu tua 2.5 y cant o flwyddyn i flwyddyn rhwng 2000 a 2005, cynnydd na fydd ynddo’i hun yn cau’r bwlch economaidd rhwng Cymru â chyfartaledd y DU a gweddill yr Undeb
Ewropeaidd.

Er mwyn cau’r bwlch hwn mewn cyfnod rhesymol o amser, mae angen newid sylfaenol o ran perfformiad a thwf mewn sawl agwedd ar economi Cymru. Dim ond busnes a diwydiant all gynhyrchu’r swyddi a’r cyfoeth y mae eu hangen i gau’r bwlch hwn.

Wrth ymateb i’r problemau hyn, mae’r sector cyhoeddus wedi datblygu nifer o wahanol weithgareddau cymorth sy’n ceisio goresgyn y rhwystrau sy’n llesteirio busnes rhag tyfu a datblygu, symbylu busnesau newydd/gwella lefelau parhad a denu gweithgarwch busnes newydd.

Gofynnir i’r Pwyllgor Datblygu Economaidd ystyried llawer o gynlluniau ar gyfer gwasanaethau cymorth i fusnesau. Mae’r Pwyllgor yn pryderu bod disgwyl iddo’n aml wneud argymhellion pwysig ar sail gwybodaeth annigonol am fanteision economaidd tebygol y cynlluniau a heb gyd-destun strategol cydlynus.

Am y rhesymau hynny, ac oherwydd fod tystiolaeth o bryder yng Nghymru am effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd, a thystiolaeth fod gorgyffwrdd rhwng y gwahanol fathau o systemau cymorth i fusnesau, penderfynodd y Pwyllgor y dylai ei brif adolygiad cyntaf edrych ar wasanaethau cymorth a datblygu busnes.