Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Diwygio) (Cymru) 2003 (fel y’u diwygiwyd)

Mae’r papur ymgynghori hwn yn gofyn am farn ynghylch y rheoliadau arfaethedig sydd â’u nod ar liniaru’r effaith ariannol ar Awdurdodau Lleol sy’n atebol am golledion buddsoddi posibl yng Nghymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 27/01/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 17/02/2009

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n croesawu ymatebion ar y cynnig hwn a byddant yn falch o dderbyn ymatebion erbyn 17 Chwefror 2009 fan bellaf.  Rydym yn ymddiheuro bod y cyfnod ymgynghori’n fyrrach nag arfer ond yn anffodus, os yw’r Rheoliadau Diwygio i fod mewn grym erbyn 31 Mawrth 2009, dyma uchafswm y cyfnod ymgynghori posibl.  Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cytuno i’r cyfnod ymgynghori byrrach hwn.  Dylid anfon ymatebion i:

Cyllid Llywodraeth Leol 3
Is-adran Gyllid Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Neu anfonwch e-bost i LGF3L@wales.gsi.gov.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y papur hwn neu os hoffech chi drafod unrhyw un o’r materion a godwyd, cysylltwch ag Amanda Whittle ar 029 2082 3619 neu Ian Skinner ar 029 2082 5978 neu anfon e-bost i Gyllid Llywodraeth Leol sydd wedi’i nodi uchod.