Skip to content

Ymgynghori

Cyfundrefnau caniatâd: Lleihau biwrocratiaeth ddiangen

Cyfundrefn ganiatâd yw'r broses a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru i wneud cais am ganiatâd gan Weinidogion Cymru i gyflawni swyddogaethau penodol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 18/10/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 11/01/2011

Prif ddiben yr ymgynghoriad hwn yw nodi pa gyfundrefnau caniatâd y gellid ystyried eu diddymu neu eu symleiddio. Gall diddymu cyfundrefnau caniatâd diangen helpu awdurdodau lleol i sicrhau mwy o hyblygrwydd ac ymreolaeth i ddarparu gwasanaethau'n fwy effeithiol i'r cymunedau a wasanaethir ganddynt. Bydd hefyd cyfundrefnau caniatâd y mae awdurdodau lleol o'r farn y dylid eu cadw.

Bydd eich ymatebion i'r rhestr o gyfundrefnau caniatâd, ar ddiwedd y papur, yn hanfodol o ran nodi pa gyfundrefnau caniatâd y dylid ystyried eu symleiddio neu eu diddymu, i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion awdurdodau lleol a'r cymunedau a wasanaethir ganddynt. Wrth gwrs, byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud.