Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ar Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed Rhag Cam-drin Ariannol

Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 28/09/2007
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 28/12/2007

Mae “Mewn Dwylo Diogel” yn amlinellu fframwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru o weithdrefnau i amddiffyn oedolion ledled Cymru. Cafodd y ddogfen wreiddiol ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf 2007 o dan Adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 sy'n gofyn i awdurdodau lleol, yn sgil eu swyddogaethau o ran gwasanaethau cymdeithasol, i weithredu o dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Roedd atodiad a gyhoeddwyd ym 2003 wedi ychwanegu at y canllawiau hyn a'u diweddaru i gynnwys, ymysg pethau eraill, cyngor ar sut i amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed yn well rhag cam-drin ariannol.

Tra bo egwyddorion a bwriad y canllawiau hyn yn ymwneud ag atal cam-drin ym mhob lleoliad, mae'r safonau gofynnol a bennir yn yr atodiad yn berthnasol i gartrefi gofal ac i lety a gaiff ei gynorthwyo yn unig, ac roedd y canllaw yn nodi bod adrannau eraill ar atal cam-drin ariannol mewn lleoliadau eraill i ddilyn maes o law.

Mae canllawiau drafft wedi cael eu paratoi a gellir lawrlwytho copi ohonynt isod.