Skip to content

Ymgynghori

Newidiadau Arfaethedig i Hawliau Datblygu a Ganiateir Deiliaid Tai

Gallwch wneud rhai gwelliannau i'ch cartref heb fod angen caniatâd cynllunio. Gelwir y rhain yn Hawliau Datblygu a Ganiateir. Caiff yr hawliau hyn eu caniatáu o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (GPDO).
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 23/11/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 15/02/2011

Dolenni perthnasol

Rydym eisiau gwneud nifer o newidiadau i ganiatáu mwy o welliannau ac i'w gwneud yn gliriach beth y mae gennych hawl i'w wneud.  Mae'r ymgynghoriad hwn yn amlinellu'r newidiadau hynny.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn egluro ein cynigion i newid Rhan 1 o Atodlen 2 i'r GPDO ynghylch y datblygu cyffredinol y caniateir i ddeiliaid tai ei wneud yng Nghymru.

Bydd y newidiadau arfaethedig  yn:

  • Rhoi’r rhyddid i ddeiliad tai wneud mwy o welliannau ac addasiadau o fewn eu heiddo heb gael caniatâd cynllunio;
  • Gosod amodau ar gyfer rhai hawliau datblygu a ganiateir fel bod datblygiadau'n cael eu gwneud mewn ffordd sy'n cael cyn lleied o effaith â phosibl ar eraill, ac yn ystyried mesurau atal llifogydd; ac
  • Yn gosod mwy o gyfyngiadau ar y datblygiadau a ganiateir o fewn Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Mae'r testun arfaethedig ar gyfer Gorchymyn Diwygio - "Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) XXXX” ar gael yn Atodiad 1.

Mae Dogfen Gyfarwyddyd Dechnegol ddrafft ar gael yn Atodiad 2. Nod y ddogfen hon yw egluro'r rheolau arfaethedig ar y datblygu a ganiateir ar gyfer deiliaid tai, beth maent yn ei olygu a sut y dylid eu gweithredu.

Ceir Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn Atodiad 3. Mae'n asesu effeithiau tebygol y cynigion i ddiwygio Rhan 1 o'r Gorchymyn.