Skip to content

Ymgynghori

Fframwaith monitro strategol ar gyfer y system gynllunio: Mesur y cynnydd tuag at greu Cymru gynaliadwy

Rydym am fesur cyfraniad y system gynllunio at ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 04/11/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 27/01/2012

Mae ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy Cymru'n Un: Cenedl Un  Blaned (2009) yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy. Mae'n nodi'r system gynllunio fel un o'r pedair prif thema sy'n ategu ein ffordd o sicrhau datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Nodwyd yn y cynllun y byddem yn:

"rhoi fframwaith monitro strategol ar waith, mewn ymgynghoriad â llywodraeth leol, er mwyn mesur canlyniadau datblygu cynaliadwy allweddol a gyflawnir drwy’r system gynllunio."

Comisiynwyd ymchwil i'n helpu i benderfynu sut mae gwneud hyn. Mae'r ymchwil hon wedi'i chynnal. Rydym wrthi bellach yn ymgynghori ar fframwaith monitro strategol i fesur cyfraniad y system gynllunio at ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.

Mae'r ymchwil wedi'i chyhoeddi ar wahân ac mae ar gael drwy ein tudalennau ymchwil gynllunio.

Rydym eisiau eich barn ar:

  • ein ffordd o fesur cyfraniad y system gynllunio at ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy;
  • pob un o'r dangosyddion arfaethedig;
  • lefelau datblygu ac adrodd y fframwaith newydd;
  • cyfuno mesurau cyfredol;
  • yr effeithiau ar awdurdodau cynllunio lleol; a
  • threfniadau adrodd y fframwaith.