Skip to content

Ymgynghori

Adolygiad o gyfarwyddiadau sy’n ei gwneud hi’n ofynnol atgyfeirio ceisiadau cynllunio at Weinidogion Cymru

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig newidiadau i’r system bresennol mewn perthynas â chyfarwyddiadau. Mae’r system bresennol yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol atgyfeirio rhai ceisiadau cynllunio at Weinidogion Cymru cyn gwneud penderfyniad, os ydynt yn bwriadu eu cymeradwyo. Yna, gall y Gweinidogion benderfynu ymyrryd trwy alw’r cais i mewn neu drwy gyfarwyddyd arall, neu ganiatáu i’r awdurdod cynllunio lleol benderfynu ar y cais.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 17/03/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 13/06/2011

Rydym am wneud nifer o newidiadau i’r mathau o geisiadau cynllunio y mae’n ofynnol eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn amlinellu ein hadolygiad o’r data a’r cyfarwyddiadau cyfredol sy’n ymwneud â cheisiadau sy’n cael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru a’u galw i mewn ganddynt ar hyn o bryd. Mae’r ymgynghoriad yn esbonio ein newidiadau arfaethedig i’r system bresennol.

Beth yw’r prif faterion?

Mae’r ymgynghoriad wedi’i rannu’n dair adran. Mae’r adrannau hyn yn rhoi sylw i:

  • gyfarwyddiadau yr ydym am iddynt aros yr un fath;
  • cyfarwyddiadau yr ydym yn cynnig eu diddymu; a
  • chyfarwyddyd newydd arfaethedig sydd wedi’i gydgrynhoi sy’n amlinellu’r mathau o ddatblygiad y mae’n ofynnol eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru.

Nid ydym yn cynnig newid ein polisi cyfredol ar gyfer penderfynu a ddylid galw ceisiadau cynllunio i mewn ai peidio. Amlinellir y meini prawf ar gyfer galw cais i mewn ym ‘Mholisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 4’ paragraff 3.12.1.

Pe bai’r cynigion hyn yn cael eu mabwysiadu, ni fyddai’n atal Gweinidogion Cymru rhag gallu galw unrhyw gais cynllunio penodol i mewn.