Skip to content

Ymgynghori

Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru Gyfan

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Cydlyniant Cymunedol rhwng 12 Ionawr a 4 Ebrill eleni ac fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, cynhaliwyd dau ddigwyddiad ymgynghori mawr yn Llandudno, Casnewydd ac Abertawe i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus a chyfres o weithdai ymgyngori wedi'u hanelu at grwpiau cymunedol llai.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 16/01/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 17/04/2009

Dolenni perthnasol

Derbyniwyd 76 o ymatebion i'r ymgynghoriad ac fe'u dadansoddwyd gyda chymorth ymchwilwyr o'r Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. 

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion yn cefnogi datblygu'r Strategaeth.  Dyma'r prif themâu yr ydym yn eu hystyried:

  • Cynnwys pob rhan o'r gymuned.
  • Pwysigrwydd bod awdurdodau lleol a phartneriaethau eraill yn y sector gwirfoddol yn gweithio ar ffurf partneriaeth.
  • Prif ffrydio cydlyniant cymunedol trwy feysydd polisi eraill.
  • Tynnu sylw at faterion cydlyniant sy'n bwysig i Gymru.
  • Ystyried effeithiau tlodi ac amddifadedd.
  • Y meini prawf gwerthuso i fesur effaith y Strategaeth.

Bydd y Strategaeth derfynol ar gael ym mis Tachwedd eleni.