Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghori: Sicrhau cynhwysiant digidol: Fframwaith strategol i Gymru

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i helpu i ddileu’r rhwystrau a wynebir gan y 900,000 o oedolion sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 17/06/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 16/09/2010

Drwy’r fframwaith hwn, mae Llywodraeth y Cynulliad yn datgan yn glir ei bod yn bwriadu rhoi arweiniad strategol pendant, ond mae hefyd yn cydnabod bod rhaid sicrhau cyfranogiad y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus ar y cyd i wneud y cynnydd sydd ei angen, ac na all Llywodraeth y Cynulliad gyflawni’r nod ar ben ei hunan. Pwysleisir yr angen i ennyn cefnogaeth amrywiaeth eang o randdeiliaid i’r weledigaeth o gynhwysiant digidol.

Mae’r Fframwaith yn esbonio’r manteision sylweddol, i unigolion a grwpiau, o fynd ar-lein. Mae hefyd yn nodi’r grwpiau allweddol o bobl sydd wedi’u hallgau, y rhwystrau a wynebant, a’r camau y gellir eu cymryd i ddechrau mynd i’r afael â’r problemau.

Rydym yn cynnal pedwar digwyddiad ymgynghori ledled Cymru:

  • 29 Mehefin (Gogledd Cymru) – Neuadd y Morfa, Y Rhyl, 2 - 4pm
  • 6 Gorffennaf (De-ddwyrain Cymru) – Canolfan Wybodaeth y Rhosyn Gwyn, Tredegar Newydd, 10 - 12pm  
  • 7 Gorffennaf (De-orllewin Cymru) – Eglwys y Glannau, Abertawe, 9:30 - 11:30am  
  • 19 Gorffennaf (Canolbarth Cymru) – Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau Llandrindod, 2 - 4pm

I gadarnhau y byddwch yn dod i’r digwyddiadau hyn, e-bostiwch: digitalinclusionmailbox@wales.gsi.gov.uk.

Ar ôl y cyfnod ymgynghori, y disgwyl yw y cyhoeddir Fframwaith diwygiedig gan Lywodraeth y Cynulliad (yn ystod Tachwedd/Rhagfyr 2010).

Mae'r ymgynghoriad wedi'i ymestyn am wythnos ychwanegol tan 16 Medi 2010.