Skip to content

Ymgynghori

Newidiadau Arfaethedig i Gasgliadau Data Digartrefedd

Hoffem glywed eich barn am ein cynigion am newidiadau i ddata digartrefedd statudol yr ydym yn casglu ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 05/12/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 01/02/2012

Dolenni perthnasol

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn defnyddwyr am y cynigion o:

  • newidiadau pellach i ddatganiad cyfredol casglu data chwarterol a blynyddol digartrefedd; a
  • chyflwyniad datganiad casglu data newydd am atal a chymorth digartrefedd dwywaith y flwyddyn.

Bydd eich cyfraniadau yn ein helpu i ddeall effaith y gallai’r newidiadau hyn gael ar unigolion a sefydliadau sy’n defnyddio’r ystadegau hyn. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn hysbysu ein penderfyniad os oes modd rhoi’r newidiadau hyn ar waith. Mae hyn yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Ystadegau Swyddogol sy’n dweud bod ymgysylltu â defnyddwyr yn hanfodol i ffydd mewn ystadegau a sicrhau gwerth cyhoeddus uchaf.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i Gasgliadau Data Digartrefedd wedi cael ei ymestyn i 1 Chwefror 2012. Y rheswm am hyn yw bod y cyfnod ymgynghori 6 wythnos wedi cynnwys y cyfnod gwyliau Nadolig 2011. Bydd yr ymestyniad yn caniatáu amser ychwanegol i ddarparu ymatebion.