Skip to content

Ymgynghori

Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned: Ymgynghoriad ar Gynllun Datblygu Cynaliadwy newydd i Gymru

Rydym yn gwahodd eich sylwadau ar Gynllun Datblygu Cynaliadwy newydd i Gymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 19/11/2008
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 04/02/2009

Dolenni perthnasol

Mae’n ddyletswydd ar Weinidogion Cymru o dan adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i gael Cynllun sy’n amlinellu sut y maent yn bwriadu hybu datblygu cynaliadwy. Yn diweddar, cyhoeddodd Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ei phenderfyniad i ail-wneud y Cynllun Datblygu Cynaliadwy hwn. 

Bwriad y cynllun yw i gyfrannu at les pobl Cymru a symud tuag at ddefnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear.  Bydd y Cynllun yn pennu nifer o ymrwymiadau newydd ar lefel uchel er mwyn hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

Hoffwn eich annog i roi eich barn am y Cynllun newydd.  Amlinellir gwestiynau’r ymgynghoriad yn y ddogfen ymgynghori. 

Ymatebion

Anfonwch eich ymatebion at:

Jennifer Stimpson
Is Adran Datblygu Cynaliadwy
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhif ffôn:  029 2082 6769

Neu anfonwch e-bost at sustainable.development@wales.gsi.gov.uk

Dylai'r ymatebion ein cyrraedd erbyn 4 Chwefror 2009.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r holl ymatebion a dderbyniwn i'r ddogfen hon. Fel arfer, caiff enwau a chyfeiriadau'r awduron (neu ran ohonynt) eu cyhoeddi yn ogystal â'r ymateb. Os byddai'n well gennych inni beidio â chyhoeddi eich manylion gyda'ch ymateb, yna rhaid ichi roi gwybod inni am hynny trwy lythyr.