Skip to content

Ymgynghori

Compact rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Trydydd Sector

Cytundeb yw Compact rhwng dau neu fwy o sefydliadau sy’n rhannu’r un agenda. Ynddo nodir y gwerthoedd a’r amcanion a rennir ac ymrwymiad i gydweithio. Diben y papur ymgynghori hwn oedd ceisio barn pobl am y Compact drafft rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Trydydd Sector i gydweithio er mwyn cryfhau cefnogaeth y trydydd sector ar gyfer defnyddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 01/11/2008
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 31/01/2009

Dolenni perthnasol

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn partneriaeth â’r trydydd sector yng Nghymru “Y Trydydd Dimensiwn – Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol.”

Y cynllun hwn yw conglfaen perthynas Llywodraeth Cynulliad Cymru â’r trydydd sector yn y dyfodol. Rhan bwysig ohono yw cryfhau cefnogaeth y trydydd sector ar gyfer defnyddio’r Gymraeg fel iaith gymunedol trwy gydweithredu strategol rhwng y sector, Llywodraeth y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Mae ‘Iaith Pawb’, y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog, yn cydnabod bod gan y trydydd sector rôl arbennig o bwysig i’w chwarae o ran cefnogi’r defnydd o’r iaith ar lefel gymunedol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn cydweithio â’r sector ac â Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddatblygu Compact tridarn.

Fe wnaeth y Compact drafft hwn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Ionawr 2009.

Mae sefydlu’r Compact hwn yn gam pwysig tuag at feithrin cysylltiadau newydd a gwella rhai presennol. A fyddech cystal ag anfon unrhyw sylwadau sydd gennych at:

Gethin Edwards
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Siambrau’r Farchnad
5/7 Heol Eglwys Fair
Caerdydd CF10 1AT
E-bost: Gethin.edwards@byig-wlb.org.uk
Ffôn: 02920 878016