Skip to content

Ymgynghori

Strategaeth Newydd ar gyfer y Gymraeg: dweud eich dweud

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu 'Iaith Pawb', ein Strategaeth Iaith Gymraeg a gyhoeddwyd yn 2003. Rydym eisiau clywed eich syniadau chi am y strategaeth newydd.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 15/10/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 29/01/2010

Mae angen cynnal yr adolygiad oherwydd:

  • bod newidiadau a datblygiadau wedi bod ers cyhoeddi Iaith Pawb
  • rydym yn paratoi Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ac yn ceisio cymhwysedd deddfwriaethol dros yr iaith Gymraeg.

Materion allweddol

Trafodwyd dyfodol yr iaith mewn fforwm cyhoeddus a drefnwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y Bala ym mis Awst. Yr oedd y Gweinidog dros Dreftadaeth yn bresennol.

Mae swyddogion wedi trafod Iaith Pawb, ynghyd â'r materion allweddol a ddylai ffurfio rhan o strategaeth Iaith Gymraeg y dyfodol, gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r sefydliadau sy'n gweithio i hybu'r defnydd o'r Gymraeg.  

Nawr, rydym eisiau clywed beth yw eich barn chi.

Egwyddorion craidd

Yn ogystal, mae'r Gweinidog dros Dreftadaeth wedi amlinellu nifer o egwyddorion craidd ar gyfer y strategaeth sef:

  • yr angen i ganolbwyntio ymdrechion ac adnoddau ar y gweithgareddau hynny fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran y defnydd o'r Gymraeg
  • yr angen i bennu a monitro targedau realistig ac i fod yn glir o ran pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod y targedau'n cael eu cyflawni
  • yr angen i sicrhau bod unrhyw bolisïau sy'n cael eu datblygu yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth.