Skip to content

Amdanom ni

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Amdanom ni

Delwedd o rieni a phlentyn

Mae AGGCC yn annog gwelliannau ym meysydd gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol trwy;

  • reoleiddio,
  • arolygu ac adolygu,
  • rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisi.

Mae AGGCC yn cyflawni ei swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, ac er ein bod yn rhan o Adran o fewn Llywodraeth Cymru mae nifer o fesurau diogelu ar waith i sicrhau ein hannibyniaeth.

Trefnir y gwaith proffesiynol o asesu a barnu gwasanaethau a sefydliadau ar sail tri rhanbarth (y Gogledd; y De-ddwyrain, a’r De-orllewin). Maent yn arolygu ac yn adolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac yn rheoleiddio ac yn arolygu lleoliadau ac asiantaethau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar.

Mae ein swyddfa genedlaethol ym Merthyr Tudful yn rhoi cyngor proffesiynol ar gyfer gwella gwasanaethau ac mae’n dadansoddi gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gyflwyno adolygiadau ar sail y dadansoddiad. Mae’n sicrhau bod yr holl brosesau’n cael eu symleiddio a’u bod yn canolbwyntio ar y dinesydd, gan sicrhau bod yna gyfathrebu ac ymgysylltu parhaus â’n holl randdeiliaid ac â’r rheiny sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Dolenni perthnasol

Sut i gysylltu gyda ni
Mae ein taflen 'Gwella Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol ung Nghymru' yn rhoi gwybodaeth ar pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud.