Pŵer cyfreithiol
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn cyflawni ei swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru.
- Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 yn rhoi pwerau i adolygu’r modd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
- Rhydd Deddf Safonau Gofal 2000, Deddf Plant 1989 (fel y’i diwygiwyd), Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yr awdurdod i gofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau yng Nghymru sy’n darparu gofal cymdeithasol.
Rydym yn rheoleiddio gofal cymdeithasol a gwasanaethau blynyddoedd cynnar gan ddefnyddio’r rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r rheoliadau yn galluogi AGGCC i reoleiddio gweithrediad sefydliadau ac asiantaethau yng Nghymru.
