Skip to content

Sut rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Sut rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill

Ysgwyd llaw

Rydym wedi cytuno ar nifer o brotocolau, concordatau a memoranda sy’n amlinellu’r modd rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid, cyrff rheoleiddio ac arolygiaethau eraill.



Mae gennym berthynas dda gyda’n rhanddeiliaid i gyd, a gweithiwn yn agos gyda’n gilydd i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o safon yng Nghymru.

Mae arnom eisiau sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau wrth galon y cyfan a wnawn. Mae ein strategaeth ymgysylltu’n egluro sut y byddwn yn annog ac yn galluogi defnyddwyr gwasanaethau i ymgysylltu er mwyn gwella ansawdd, gan wrando ac ymateb i’r hyn yr ydych chi’n ei ddweud wrthym. Hoffem i gyfranogi ddod yn elfen annatod o’n gwaith ac yn rhan o’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu, yn cynnwys ac yn ystyried safbwynt defnyddwyr a gofalwyr ym mhopeth a wnawn.

Rydym yn rhannu arfer gorau a syniadau ac mae gennym nifer o brotocolau, concordatiau a memoranda wedi eu sefydlu sy’n amlinellu ein dull o gydweithio. Rhestrir y rhain isod.

Dylid darllen cyfeiriadau at Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel AGGCC.

Protocol ar gyfer cydweithio: AGGCC a Chyngor Gofal

11/04/12
Protocol ar gyfer cfnewid gwybodaeth rhwng Cyngor Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
 

Cydweithio er mwyn Cefnogi Gwelliannau

25/03/11
Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio sut yr ydym yn cydweithio ag Estyn, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ymateb i’r agenda polisi cyhoeddus yng Nghymru a’r hinsawdd newid bresennol.
 

Protocol gyda Adnodd Cymorth Comisiynu ar Gyfer Plant

11/06/10
Protocol rhwng y Gangen Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau yn AGGCC a’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant yw hwn.
 

Protocol rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru

01/08/09
Diben y protocol hwn yw egluro’r cysylltaiadau gwaith rhwng AGGCC a’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.
 

Protocol gyda Gwasanaethau Gwybodaeth Plant yng Nghymru

08/05/07
Mae’r protocol hwn yn amlinellu’r trefniadau gweithio rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd.
 

Protocol ar gyfer rhannu gwybodaeth gyda Awdurdodau Lleol

08/05/07
Diben y protocol hwn yw egluro’r berthynas rhwng AGGCC a’r awdurdodau lleol yng Nghymru o ran eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
 

Dolenni perthnasol

Mae'r dudalen hon yn darparu dolenni i sefydliadau eraill ledled Cymru a gweddill y DU.