Sut rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill
Mae gennym berthynas dda gyda’n rhanddeiliaid i gyd, a gweithiwn yn agos gyda’n gilydd i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o safon yng Nghymru.
Mae arnom eisiau sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau wrth galon y cyfan a wnawn. Mae ein strategaeth ymgysylltu’n egluro sut y byddwn yn annog ac yn galluogi defnyddwyr gwasanaethau i ymgysylltu er mwyn gwella ansawdd, gan wrando ac ymateb i’r hyn yr ydych chi’n ei ddweud wrthym. Hoffem i gyfranogi ddod yn elfen annatod o’n gwaith ac yn rhan o’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu, yn cynnwys ac yn ystyried safbwynt defnyddwyr a gofalwyr ym mhopeth a wnawn.
Rydym yn rhannu arfer gorau a syniadau ac mae gennym nifer o brotocolau, concordatiau a memoranda wedi eu sefydlu sy’n amlinellu ein dull o gydweithio. Rhestrir y rhain isod.
Dylid darllen cyfeiriadau at Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel AGGCC.
