Protocol gyda Adnodd Cymorth Comisiynu ar Gyfer Plant
Protocol rhwng y Gangen Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau yn AGGCC a’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant yw hwn.
Mae’r protocol hwn yn amlinellu’r trefniadau gweithio rhwng y Gangen Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau yn Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant. Mae’r protocol yn amlinellu’r trefniadau hynny drwy:
- Bennu rolau a chyfrifoldebau AGGCC (Y Gangen Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau) a’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant
- Egluro sut y bydd AGGCC (Y Gangen Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau) a’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant yn cydweithio â’i gilydd
- Nodi ar ba sail y bydd AGGCC (Y Gangen Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau) a’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant yn rhannu gwybodaeth â’i gilydd.
