Skip to content

Protocol rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Protocol rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru

Diben y protocol hwn yw egluro’r cysylltaiadau gwaith rhwng AGGCC a’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.

Trefnwyd cyfarfodydd rhwng AGGCC a'r Awdurdodau Tân ac Achub i fynd i'r afael â materion strategol ar lefel Cymru gyfan. Bydd y cyfarfodydd hyn yn parhau i sicrhau bod rhannu gwybodaeth, datblygu polisi a chydweithio yn parhau i ddigwydd mewn modd effeithiol ar y lefel strategol hon.

Yn ogystal â hyn, bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar lefel Gwasaneth Tân ac Achub lleol er mwyn dod â'r Gwasanaethau Tân ac Achub a chynrychiolwyr pob swyddfa ranbarthol AGGCC yn yr ardal at ei gilydd. Diben y cyfarfodydd lleol hyn fydd gwella cydweithredu a chydgysylltu, cytuno ar drefniadau gweithio lleol a datrys problemau lleol. Yn arferol, bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn.

Bydd yr Awdurdodau Tân ac Achub ac AGGCC yn anlenu at hybu cydweithio trwy ddatblygu trefniadau lleol ar gyfer ymweliadau ar y cyd i ystyried materion diogelwch tân mewn safleoedd cofrestredig.