Gwasanaethau plant
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i bobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau plant.
Wrth redeg gwasanaeth plant, mae rhai pethau yn ôl y gyfraith y mae’n rhaid i chi eu gwneud. Mae’r Deddfau a’r rheoliadau perthnasol yn egluro’r rhain.
Mae tair Deddf sy’n ymwneud â gwasanaethau plant, sef Deddf Safonau Gofal 2000, Deddf Plant 1989 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Mae Deddf Safonau Gofal 2000 yn rhoi’r awdurdod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau yng Nghymru sy’n darparu gofal cymdeithasol. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau ar gyfer rheoli sefydliadau ac asiantaethau ledled Cymru.
- Deddf Safonau Gofal 2000 (Dolen allanol, Saesneg yn unig)
- Deddf Plant 1989 (Dolenni allanol, Saesneg yn unig)
- Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Dolenni allanol, Saesneg yn unig)
Bydd y rheoliadau a'r canllawiau canlynol hefyd o ddiddordeb.
- Tuag at fywyd sefydlog a dyfodol gwell (Dolenni allanol)
- Diogelu plant: Gweithio gyda'n gilydd o dan Ddeddf Plant 2004 (Dolenni allanol)
Dolenni perthnasol
Sut i gysylltu gyda ni
