Skip to content

Gwarchod plant a Gofal dydd

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwarchod plant a Gofal dydd

Gwraig a plentyn

Ar y dudalen hon ceir gwybodaeth ynglŷn ag ymgeisio i fod yn warchodwr plant cofrestredig.

Gwarchod plant

Ar 1 Ebrill 2011 caiff y gyfraith ar gofrestru ac arolygu gwarchod plant a gofal dydd ei llywodraethu gan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. 


Os ydych eisoes wedi cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd, bydd eich tystysgrif yn ddilys o hyd ar ôl 1 Ebrill 2011. Byddwch yn cael tystysgrif newydd ar ôl eich arolygiad nesaf.  Fodd bynnag, bydd angen i chi gydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 ac ystyried y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.

A oes angen i chi gofrestru ar gyfer gwarchod plant neu ofal dydd?

Wrth ystyried p'un a oes angen i chi gofrestru dylech gyfeirio at y ddeddfwriaeth a'r safonau gofynnol cenedlaethol a ddaeth i rym ar 1 Ebrill, 2011.  Rhoddir crynodeb byr o'r prif ystyriaethau isod.

Beth yw gwarchod plant? 

Gwarchod plant yw pan fo unigolyn yn gofalu am un plentyn neu fwy o dan wyth oed ar safle domestig am dâl.
 
Os ydych yn gwarchod plant mae'n rhaid i chi gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).  Gallech fod yn cyflawni trosedd os na fyddwch yn cofrestru.

Fodd bynnag, gallech fod wedi eich eithrio o'r ddyletswydd i gofrestru.   Gweler Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

Ni fyddai angen i chi gofrestru ar gyfer gwarchod plant:

  • os ydych yn rhiant, yn berthynas neu'n rhiant maeth i'r plentyn
  • os nad yw cyfanswm y cyfnod gofal mewn un diwrnod yn fwy na dwy awr 
  • os yw'r cyfnod y gofelir am y plentyn rhwng 6pm ar unrhyw ddiwrnod a 2am y diwrnod canlynol 
  • os yw ffrindiau yn gofalu am blant ei gilydd ac na chânt eu talu (p'un a yw'n arian neu'n werth ariannol) am y gwasanaeth 
  • os darperir y gofal gan unigolyn a gyflogir yn uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu (fel nani neu au pair) ac y gofelir am y plentyn yng nghartref un o'r teuluoedd.

Os yw'n ofynnol i chi gofrestru fel gwarchodwr plant cwblhewch y ffurflen gais gyda chymorth y canllawiau. 

Os oes angen unrhyw gyngor arnoch ar wneud cais i fod yn warchodwr plant, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol (0300 123 7777) 

Gofal dydd

Beth yw gofal dydd? 

Gofal dydd yw pan fo unigolyn yn gofalu am blant o dan 8 oed ar safle heblaw safle domestig.

Os ydych yn darparu gofal dydd mae'n rhaid i chi gofrestru gydag AGGCC. Gallech fod yn cyflawni trosedd os na fyddwch yn cofrestru. 

Fodd bynnag, gallech fod wedi eich eithrio o'r ddyletswydd i gofrestru fel y nodir yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

Ni fyddai'n ofynnol i chi gofrestru fel darparwr gofal dydd:

  • os ydych yn gofalu am blentyn/plant am lai na chwe diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr a'ch bod wedi hysbysu AGGCC yn ysgrifenedig cyn yr achlysur cyntaf y defnyddir y safle yn ystod y flwyddyn honno 
  • os nad yw cyfnod neu gyfanswm y cyfnodau mewn unrhyw ddiwrnod y gofelir am blant ar safle yn fwy na dwy awr 
  • os ydych yn gofalu am blentyn mewn cartref plant mewn perthynas ag unigolyn sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 
  • os ydych yn gofalu am blentyn mewn cartref gofal neu ysbyty neu ganolfan breswyl i'r teulu a bod y gofal yn rhan o weithgarwch y sefydliad hwnnw 
  • os ydych yn gofalu am blentyn sy'n aros mewn gwesty neu sefydliad tebyg arall a bod y gofal ond yn cael ei ddarparu rhwng 6 pm a 2 am ac na ddarperir gofal i fwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd 
  • os ydych yn gofalu am blentyn/plant mewn ysgol a bod y gofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu addysg 
  • os ydych yn darparu hyfforddiant mewn gweithgarwch a restrir yn y rheoliadau (h.y. chwaraeon, y celfyddydau perfformio, celf a chrefft, astudiaeth ysgol neu gymorth gyda gwaith cartref, astudiaeth grefyddol neu ddiwylliannol).  Fodd bynnag, bydd angen cofrestru'r gweithgareddau hyn os yw'r plant o dan 5 oed ac yn bresennol am fwy na phedair awr y dydd neu os darperir yr hyfforddiant mewn mwy na dau o'r mathau o weithgareddau a restrir.

Os yw'n ofynnol i chi gofrestru ar gyfer gofal dydd, cwblhewch ffurflen gais gyda chymorth y canllawiau.   Gellir cael copi o'r ffurflen gais a'r canllaw drwy gysylltu â swyddfa ranbarthol AGGCC.  Bydd y ffurflenni cais ar gyfer gofal dydd a'r canllawiau ar gael ar y wefan hon erbyn y diwedd o Ebrill 2011.

Os oes angen unrhyw gyngor arnoch ar wneud cais i fod yn ddarparwr gofal dydd, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol (0300 123 7777).

Dolenni perthnasol

Sut i gysylltu gyda ni
Defnyddiwch y dudalen hon i weld y rheoliadau ar gyfer gofal dydd i blant o dan 8 oed.
Defnyddir y safonau hyn i benderfynu a yw’r gofal a ddarperir gan leoliadau gwarchod plant a gofal dydd yn ddigonol ar gyfer plant dan wyth oed.