Skip to content

Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol

Logo Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant

Mae'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref yn cynnig lefel ychwanegol o sicrwydd i rieni sydd am i'w plant gael eu gwarchod yn ei cartrefi eu hunain.

Gofal Plant yn y Cartref: Cymeradwyo Gwirfoddol

Does dim rhaid i nani fod yn gymeradwy i ofalu am blentyn yn gartref ei rieni, ond mae nifer o fanteision i rieni ac i’r sawl sy’n eu cyflogi os ydyn nhw wedi’u cymeradwyo.

Ers 1 Ebrill 2011, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yw’r corff cymeradwyo ar gyfer y cynllun.

Cost ymgeisio ar gyfer y cynllun yw £99 yn y flwyddyn gyntaf, gyda ffi ychwanegol o £5 am brosesu archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn Swyddfa’r Post. Rhaid talu’r ffi hon i Swyddfa’r Post ac nid i AGGCC.

Gan fod archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ddilys am 3 blynedd, £55 yw’r ffi adnewyddu yn yr ail a’r drydedd flwyddyn.

Nid oes modd ad-dalu’r ffioedd a dalwyd ar ôl i gais gael ei gyflwyno.

Manteision i Rieni

Wrth ddefnyddio nani a gymeradwywyd o dan y cynllun, mae gennych well sicrwydd bod y sawl rydych yn ei gyflogi yn bodloni’r gofynion lleiaf, gan gynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae’r cynllun hefyd yn cadarnhau bod gan y nani dystysgrif cymorth cyntaf ddiweddar a chymhwyster addas mewn gofal plant.

Wrth ddefnyddio nani sy’n gymeradwy, gallech hefyd fod yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith neu help ariannol arall, e.e. gofal plant â chymorth cyflogwr.

I gael mwy o wybodaeth am bwy sy’n gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith, cysylltwch â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar 0845 300 3900.

Manteision i’r Nani

Y fantais o fod yn rhan o’r cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol yw y byddwch yn rhan o gynllun sy’n gydnabyddedig drwy Gymru gyfan.

Mae’r cynllun yn cydnabod eich bod wedi bodloni gofynion sylfaenol ar gyfer gofal plant, gan gynnwys cymhwyster gofal plant cydnabyddedig, tystysgrif gyfredol mewn cymorth cyntaf ac archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae hefyd yn bosibl y cewch well cyfle am waith gan rieni sy’n gallu hawlio credydau treth am ddefnyddio gwasanaeth gofal plant cymeradwy.
Cewch wybod mwy am sut i ymgeisio drwy edrych ar ein Cwestiynau Cyffredin.

Yr hyn nad yw’r cynllun yn ei wneud

Nid yw’r cynllun yn cadarnhau bod y gofalwr plant yn gymwys i weithio yn y DU. Y cyflogwr sy’n gyfrifol am wneud hynny. Nid yw chwaith yn gwarantu y bydd rhieni’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol. Dylid cysylltu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gael y manylion hynny.

Cysylltu â ni:

Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant
AGGCC
Adeiladau'r Llywodraeth
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ

Rhif ffon: 0300 062 5609
E-bost:
cssiw.north@wales.gsi.gov.uk