Gofal cartref
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i bobl sy’n gweithio yn y sector gofal cartref.
Wrth redeg gwasanaeth gofal cartref, mae rhai pethau yn ôl y gyfraith y mae’n rhaid i chi eu gwneud. Mae’r Deddfau a’r rheoliadau perthnasol yn egluro’r rhain.
Mae un Ddeddf sy’n ymwneud â gofal cartref, sef Deddf Safonau Gofal (2000). Mae’r Ddeddf hon yn rhoi’r awdurdod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau yng Nghymru sy’n darparu gofal cymdeithasol. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau ar gyfer rheoli sefydliadau ac asiantaethau ledled Cymru.
- Deddf Safonau Gofal 2000 (Dolenni allanol, saesneg yn unig)
Dolenni perthnasol
Sut i gysylltu gyda ni
