Skip to content

Asiantaethau nyrsys

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Asiantaethau nyrsys

Rhes o ffigyrau ag anableddau gwahanol

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i bobl sy’n gweithio yn y sector asiantaethau nyrsys.

Wrth redeg asiantaethau nyrsys, mae rhai pethau yn ôl y gyfraith y mae’n rhaid i chi eu gwneud. Mae’r Deddfau a’r rheoliadau perthnasol yn egluro’r rhain.

Mae un Ddeddf sy’n ymwneud ag asiantaethau nyrsys, sef Deddf Safonau Gofal (2000). Mae’r Ddeddf hon yn rhoi’r awdurdod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau yng Nghymru sy’n darparu gofal cymdeithasol. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau ar gyfer rheoli sefydliadau ac asiantaethau ledled Cymru.

Dolenni perthnasol

Mae'r dudalen hon yn darparu dolenni i sefydliadau eraill ledled Cymru a gweddill y DU.
Sut i gysylltu gyda ni