Dogfennau Casglu Gwybodaeth Darparwyr
Mae’n ofynnol i ddarparwyr gofal cymdeithasol sicrhau bod AGGCC yn cael gwybodaeth am eu gwasanaeth yn rheolaidd (yn achos y rhan fwyaf o wasanaethau bydd hynny’n digwydd bob blwyddyn). Bydd AGGCC yn rhoi gwybod i ddarparwyr drwy lythyr pan fydd angen iddynt lenwi’r dogfennau hyn. Mae fersiynau cyfeirio ar gael yma. Rydym yn annog darparwyr i lenwi’r dogfennau a’u dychwelyd yn electronig. Bydd manylion cyswllt ar gyfer dychwelyd dogfennau’n electronig yn cael eu darparu gyda’r llythyr a fydd yn gofyn am y wybodaeth hon.
Mae’r dogfennau hyn yn rhan o’n gwaith i foderneiddio ein gwasanaethau a sicrhau bod ein dogfennau’n haws eu defnyddio. Nod y dogfennau hyn, sydd gryn dipyn yn fyrrach, yw lleihau’r baich ar ddarparwyr gwasanaeth a chasglu set gyson o wybodaeth gan bob gwasanaeth.
I ganfod eich maes gwasanaeth, cliciwch ar y bar gwyrdd ar yr ochr chwith nes i chi gyrraedd y lefel briodol. Mae fersiynau PDF o'r dogfennau yno.
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y dogfennau, cysylltwch â Nigel Moss (nigel.moss@wales.gsi.gov.uk)
Pan fydd gofyn i chi lenwi’r dogfennau hyn, byddwch yn cael pecyn sy’n cynnwys y canlynol:
- Tabl syml yw y ffurflen gwybodaeth sylfaenol am eich gwasanaeth ac mae’n dangos y wybodaeth sylfaenol sydd gan AGGCC am eich gwasanaeth ar hyn o bryd. Gofynnir i chi gywiro neu ddiweddaru’r wybodaeth honno yn ôl y gofyn.
- Mae’r ffurflen data am y gwasanaeth yn gofyn i chi ddarparu data am eich gwasanaeth. Mae’n cynnwys cyfres o dablau i chi gofnodi ffigyrau a gwybodaeth ffeithiol am eich defnyddwyr gwasanaeth (h.y. yr oedolion neu’r plant sy’n defnyddio eich gwasanaeth) a’ch staff gofal.
- Mae’r datganiad hunanasesiad o’r gwasanaeth, yn gofyn i chi egluro sut yr ydych yn sicrhau bod yr oedolion neu’r plant sy’n defnyddio eich gwasanaeth yn elwa ar wasanaeth diogel o ansawdd da sy’n dwyn canlyniadau cadarnhaol i’r defnyddwyr gwasanaeth a’r bobl sy’n gofalu amdanynt.
Mae gan y dogfennau hyn fformat a chynnwys safonol ar gyfer pob math o wasanaeth, ond mae eu manylion yn wahanol.
