Cofrestru i ddarparu gwasanaethau
Mae’r dudalen hon yn egluro sut i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).
AGGCC sy’n penderfynu pwy sy’n cael darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae’n rhaid i unrhyw wasanaeth rheoledig gofrestru gydag AGGCC cyn dechrau gweithredu.
Sut i gofrestru
- Yn gyntaf, rhaid i chi gysylltu â’ch swyddfa AGGCC leol. Cewch becyn gwybodaeth ganddynt sy’n cynnwys y ffurflen gais. I weld ble mae eich swyddfa leol, cliciwch y ddolen ‘Cysylltu a ni’ ar ochr dde’r dudalen hon.
Amrywio a diddymu
- I gyflwyno cais i amrywio neu ddileu amod cofrestru, argraffwch a chwblhewch y ffurflen ‘Cais i amrywio neu ddileu amod cofrestru’ sydd ar gael i’w lawrlwytho isod.
- I gyflwyno cais i ddiddymu’r cofrestriad dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, argraffwch a chwblhewch y ffurflen ‘Cais i ddiddymu cofrestriad dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000’ sydd ar gael i’w lawrlwytho isod.
18/08/08
Mae'r ffurflen hon i'w defnyddio ar gyfer gwneud cais am ddiddymu cofrestriad.
15/08/08
Defnyddiwch y ffurflen hon i gyflwyno cais i amrywio neu ddileu amod cofrestru.
