Defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn defnyddio gwasanaethau gofal neu wasanaethau cymdeithasol, mae’r rhan hon o’r wefan yn berthnasol i chi.
Defnyddiwch y dolenni ar ochr chwith y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth am:
- yr Arolygiaeth;
- y gwaith rydym yn ei wneud;
- sut rydym yn gweithio gyda’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru; a
- sut i gysylltu â ni.
Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde’r dudalen i fynd at:
Rheoliadau, themâu a safonau ansawdd
Rheoliadau yw’r rhain sy’n llywodraethu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Maent yn ofynion cyfreithiol, a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, a rhaid i ddarparwyr gofal cymdeithasol gydymffurfio â hwy.
Mae fframwaith arolygu AGGCC wedi ei strwythuro o gwmpas pedair thema ansawdd: ansawdd bywyd, ansawdd staffio, ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth ac ansawdd yr amgylchedd.
Mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn egluro’r safonau gofal a ddisgwylir gan ddarparwyr gwasanaethau gofal.
Gwybod beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith
Rhaid i bob darparwr gwasanaeth wrando a delio ag unrhyw gwynion gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr. Yn y rhan hon cewch wybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud os ydych yn anfodlon â’r gwasanaeth rydych yn ei dderbyn a beth i’w wneud os ydych eisiau cwyno am Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).
Chwiliwch yn ein cyfeiriadur o wasanaethau rheoledig
Dylai darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar fod wedi cofrestru ag AGGCC. Defnyddiwch ein cyfeiriadur gwasanaethau rheoledig yn yr adran cyhoeddiadau i ddod o hyd i wasanaeth gofal neu i ddarllen adroddiad arolygu ar wasanaeth penodol.
