Skip to content

Beth rydym yn ei wneud

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Beth rydym yn ei wneud

Ein swyddogaeth ni yw cynnal arolygiadau proffesiynol a dod i farn ynghylch gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol ac felly annog darparwyr gwasanaethau i wneud gwelliannau.

Gwnawn hyn drwy ein tri rhanbarth (Gogledd Cymru; De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Cymru) a’r rhain yw canolbwynt y gwaith o arolygu a chloriannu gwasanaethau a sefydliadau yn broffesiynol. Maent yn arolygu ac yn adolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, ac yn rheoleiddio ac arolygu lleoliadau ac asiantaethau gofal.

Rydym yn arolygu ac yn rheoleiddio

  • Cartrefi gofal i oedolion – gan gynnwys y rheiny sy’n darparu gofal nyrsio
  • Asiantaethau gofal cartref
  • Cynlluniau lleoli oedolion 
  • Asiantaethau nyrsio
  • Cartrefi plant
  • Gwarchodwyr plant
  • Gwasanaethau gofal dydd ar gyfer plant dan 8
  • Asiantaethau maethu
  • Asiantaethau mabwysiadu
  • Ysgolion preswyl, ysgolion arbennig preswyl a cholegau addysg bellach sy’n darparu llety ar gyfer myfyrwyr dan 18

Rydym yn arolygu, adolygu a gwerthuso

  • Gwasanaethau cymdeithasol Awdurdodau Lleol

Mae rheoleiddio’n cynnwys

  • Cofrestru – rydym yn penderfynu pwy sy’n cael darparu gwasanaethau;
  • Arolygu – rydym yn arolygu gwasanaethau ac yn sicrhau bod ein hadroddiadau ar gael i’r cyhoedd;
  • Ymateb i gwynion a phryderon – rydym yn ystyried cwynion a phryderon ynghylch gwasanaethau a reoleiddir ac yn cymryd camau gweithredu lle y byddwn yn canfod diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau
  • Gorfodi – lle y byddwn yn canfod diffyg cydymffurfio byddwn yn cymryd camau gorfodi os na fydd gwasanaethau’n cydymffurfio â’r gyfraith.

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau ynghylch canfyddiadau ein harolygiadau. Mae’r rhain ar gael yn adran cyhoeddiadau ein gwefan. Fe ddewch o hyd i adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd hefyd yn adran y Cyhoeddiadau.

Byddwn yn cyhoeddi nifer y lleoliadau a’r lleoedd y byddwn yn eu rheoleiddio bob chwarter a gellir dod o hyd i’r wybodaeth hon, ynghyd â’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a gyhoeddwn yn flynyddol, yn ein hadran gyhoeddiadau.

Dolenni perthnasol

Mae Cynllun Strategol AGGCC yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni ein gweithgareddau craidd dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth a dolenni ar gyfer rhai sy'n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru.