C.C
1. Sut ydw i’n dod yn warchodwr plant cofrestredig?
Er mwyn dod yn warchodwr plant cofrestredig mae angen i chi gysylltu â’r swyddfa leol ar gyfer eich ardal chi. I weld ble mae eich swyddfa AGGCC wedi ei lleoli edrychwch ar y dudalen Cysylltwch â ni .
Mae gwybodaeth am y broses ymgeisio ac arweiniad ar gyfer y ffurflenni cais ar gael ar y dudalen Gwarchod plant a gofal dydd.
2. Sut ydw i’n cofrestru gyda’r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol?
Mae angen i chi gysylltu â Swyddfa Ranbarthol AGGCC Gogledd Cymru ar 0300 062 5609. Ceir gwybodaeth bellach ynglŷn â’r cynllun ar y dudalen Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol.
3. Sut ydw i’n dod o hyd i adroddiad arolygu ar wefan AGGCC?
Gellir dod o hyd i adroddiadau arolygu drwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio ar y dudalen Dod o hyd i wasanaeth gofal neu adroddiad arolygu. Os ydych chi’n chwilio am adroddiad ac rydych chi’n gwybod enw’r lleoliad, rhowch enw’r lleoliad ac ardal y lleoliad yn unig ym maes y rhanbarth. Os oes arnoch eisiau chwilio yn ôl categori gofal, defnyddiwch y cwymplenni a ddarparwyd. Unwaith y byddwch wedi dewis chwilio, caiff y canlyniadau eu dangos ar waelod y sgrin.
4. Sut ydw i’n dod o hyd i rif Swyddfa AGGCC arbennig?
Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt holl swyddfeydd AGGCC ledled Cymru ar y dudalen Cysylltwch â ni.
5. Sut ydw i’n dod o hyd i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r Rheoliadau ar gyfer lleoliadau gofal?
Gellir dod o hyd i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r Rheoliadau ar y dudalen Darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd angen i chi ddewis y categori gofal y mae arnoch ei eisiau, e.e. gofal oedolion, o blith y dolenni ar yr ochr chwith, i ganfod y Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r Rheoliadau perthnasol.
