Arolygiad ar y Cyd Cyfiawnder Troseddol
Mae darparu Oedolion Priodol i blant yn y ddalfa yn canolbwyntio ar gydymffurfio a deddfwriaeth Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984. Mae angen gwaith pellach nawr ar ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc, oedd casgliad arolwg ar y cyd. Canfu¡¦r adroddiad, Pwy sy¡¦n cadw llygad am y plant? hefyd bod gormod o blant a phobl ifanc yn parhau i gael eu dal mewn gorsafoedd heddlu tra byddant yn aros am gael ymddangos yn y llys ar ol cael eu cyhuddo.
Mae'r canfyddiadau yn dilyn arolwg gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC), Arolygiaeth Prawf EM, Arolygiaeth Carchardai EM, y Comisiwn Ansawdd Gofal, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a¡'r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGVV).
Edrychodd yr arolwg ar y modd y mae awdurdodau lleol yn darparu Oedolion Priodol i blant yn y ddalfa a llety diogel dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 mewn awdurdodau lleol.
Yn unol a Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, roedd yr adroddiad yn ystyried plant a phobl ifanc rhwng 10 ag 16 oed sydd a hawl i gael Oedolyn Priodol yn bresennol. Os bydd plentyn rhwng 10 ag 16 oed yn cael ei gyhuddo o drosedd ac y gwrthodir mechniaeth, mae¡'n ofynnol i¡'r heddlu (heblaw mewn amgylchiadau penodol) i¡'w drosglwyddo i¡'r awdurdod lleol i gael llety, ac mae¡¦n rhaidd iddynt hwythau ei dderbyn. Mae¡'r Ddeddf yn creu anghysondeb i rai 17 mlwydd oed, sy¡'n cael eu trin fel oedolion mewn gorsaf heddlu.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd:
- Roedd y gweithdrefnau recriwtio ar gyfer Oedolion Priodol yn gyffredinol yn gadarn, ac roedd y rhaglenni hyfforddi ar draws ardaloedd yn debyg. Roedd yr unigolion cafodd eu recriwtio i weithredu fel Oedolion Priodol yn gyffredinol yn frwdfrydig ac yn awyddus i gefnogi plant a phobl ifanc;
- Ac eithrio mewn un ardal, gwelwyd bod y llif gwybodaeth rhwng Timau Troseddau Ieuenctid ag Oedolion Priodol yn aneffeithiol. Yn aml iawn ni wyddai'r Oedolion Priodol fawr ddim am y plentyn neu unigolyn ifanc yr oeddynt i fod i¡'w gefnogi, ac roedd tystiolaeth bod y diffyg gwybodaeth hyn yn llesteirio eu hymdrechion i gefnogi pobl ifanc;
- Roedd cofnodion dalfa¡'r heddlu, ffynhonnell wybodaeth bwysig i¡'r Oedolyn Priodol, yn annigonol, heb eu llenwi yn gywir mewn sawl achos a heb ddigon o fanylder;
- Nid oedd amgylchedd ffisegol yr ardaloedd dal (er enghraifft, y diffyg preifatrwydd, s.n a rhwystrau ffisegol) yn annog plant neu bobl ifanc i ddatgelu eu gwendidau neu eu hanghenion arbennig
- Roedd diffyg unrhyw asesu credadwy ar ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd gan Oedolion Priodol. Gwelwyd eu bod yn oddefol mewn cyfweliadau ac yn annhebygol o herio¡'r heddlu.;
- Ac eithrio mewn un ardal, roedd diffyg gwybodaeth yn gyffredinol a phryder ar bob lefel o¡'r heddlu a¡'r awdurdod lleol o ran faint o blant a phobl ifanc sy¡'n parhau i gael eu dal yng nghelloedd yr heddlu ar ol cael eu cyhuddo, ac am ba hyd.
- Roedd diffyg dealltwriaeth ymhlith staff y ddalfa o¡¦r elfennau o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol y mae¡¦n rhaid eu bodloni er mwyn cyfiawnhau dal plant a phobl ifanc mewn gorsaf heddlu ar ol eu cyhuddo. Mewn 33 o¡¦n hadolygiadau achos pan wrthodwyd mechniaeth, ni cheisiwyd cael llety gan awdurdod lleol. Pan geisiwyd cael llety gan yr awdurdod lleol, ni wnaeth y staff herio ceisiadau¡'r heddlu ar gyfer llety diogel; ac felly nid oedd plant a phobl ifanc yn cael eu trosglwyddo i lety Awdurdod Lleol ar ol eu cyhuddo.
- O¡'n sampl ni o 49 o blant y gwrthodwyd mechniaeth iddynt, dim ond tri a aeth i lety awdurdod lleol. Rhoddwyd mechniaeth i 64 y cant o¡¦r gweddill a barhaodd yng nghelloedd yr heddlu yn eu gwrandawiad cyntaf yn y llys.
O ganlyniad, mae¡'r arolygwyr yn argymell:
- Bydd y Tim Troseddau Ieuenctid neu¡¦r awdurdod lleol yn sicrhau bod y trefniadau ar gyfer gofyn am Oedolyn Priodol yn cael eu cynllunio fel bod plant a phobl ifanc yn cael eu cadw yng nghelloedd yr heddlu am gyn lleied o amser ag sy¡¦n bosibl
- Rhaid i lif gwybodaeth rhwng Timau Troseddau Ieuenctid ag Oedolion Priodol fod yn effeithiol, a chanolbwyntio ar anghenion y plentyn neu unigolyn ifanc
- Bydd yr heddlu yn gwneud gwell defnydd o gyfleusterau cofnodi preifat neu ar wahan yn ardal y ddalfa i annog plant a phobl ifanc i ddatgelu eu hanghenion unigol
- Rhaid i'r heddlu ymdrin yn effeithiol ag anghenion plant o ran cael eu diogelu, a sicrhau bod yr holl wybodaeth am gadwad plant a phobl ifanc yn cael ei chofnodi yn gywir. Dylid cadw¡'r amser y mae plant a phobl ifanc yn cael eu dal mewn gorsafoedd heddlu ar ol cael eu cyhuddo cyn lleied a phosibl. Rhaid i¡'r heddlu ddarparu dogfennau sy¡'n addas i'w hoedran, addasu technegau cyfweld a chyfleu unrhyw broblemau o ran diogelu fel y maent yn cael eu dynodi.
- Bydd y Tim Troseddau Ieuenctid/darparwr Oedolion Priodol yn darparu gwasanaeth o safon i blant a phobl ifanc yn y ddalfa.
- Dylai Byrddau Diogelu Plant Lleol fonitro¡¦r argymhellion yn yr adroddiad hwn i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin fel unigolion a bod eu hanghenion yn cael sylw i¡¦w galluogi i ddeall a chymryd rhan yn y broses.
Mae¡'r adroddiad hefyd yn argymell y dylai¡¦r Swyddfa Gartref gynnig cyfarwyddyd addas ar broses dalfa¡'r heddlu i rieni a gwarcheidwaid er mwyn iddynt gymryd rhan lawn, a mabwysiadau dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol y diffiniad o blentyn fel sy¡¦n cael ei amlinellu yn Neddf Plant 2004.
Dywedodd Arolygydd Heddlu EM, Dru Sharpling, ar ran y chwe arolygiaeth:
Yr hyn wnaethom ei ganfod yn ein harolygiad ar y cyd oedd nad yw¡'r broses arestio a chadw yn y ddalfa yn ystyried anghenion y plant a¡¦r bobl ifanc. Dylai asiantaethau gweithio gydag eraill i gadw¡'r amser y mae plant a phobl ifanc yn cael eu dal yn y ddalfa gan yr heddlu cyn lleied a phosibl.
Dylai'r rhai sy¡¦n gwneud gwaith Oedolyn Priodol gael digon o wybodaeth am gefndir y plentyn i ddeall ei anghenion. Rhaid i'r heddlu, Timau Troseddau Ieuenctid, awdurdodau lleol a Byrddau Diogelu Plant Lleol gynnig rhagor o arweiniad, cyfarwyddyd a goruchwyliaeth i alluogi eu staff i ddeall yn iawn eu dyletswydd i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc.
Mae’r adroddiad ar gael yn www.hmic.gov.uk
